Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Ionawr 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12591
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 6-9. Tynnwyd cwestiynau 3 a 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 2-9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac atebwyd cwestiynau 6-8 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 3.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip:
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad i longyfarch Gwylwyr y Glannau ei Mawrhydi ar 200 mlynedd o wasanaeth.
5 Dadl ar ddeiseb P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NDM7887 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd’ a gasglodd 30,133 o lofnodion.
P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cyfyngiadau Covid
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.
2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:
a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;
b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;
c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
11 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:
a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;
b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;
c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a
d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.
2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:
a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;
b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;
c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a
d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Dadl Plaid Cymru – Costau byw
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM7890 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys o ran costau byw i fynd i'r afael â'r pwysau a achosir gan y broblem ddeublyg o gostau’n cynyddu a diffyg twf mewn cyflogau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.02 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.05
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM7888 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Teithio o gwmpas: trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2022